Amdanom

Mae’r iaith Gymraeg yn sefyll ger groesffordd mewn oes gynyddol ddigidol. Mae gofynion a disgwyliadau unigolion o’i defnydd o’r Gymraeg yn ddigidol yn cynyddu ar raddfa ni welwyd o’r blaen.

Ym meysydd busnes, adloniant, addysg, iechyd a llywodraethu mae defnydd o dechnoleg a rhyngwynebau digidol ar gynnydd ond mae diffyg statws ac argaeledd y Gymraeg yn peri gofid.

I’r Gymraeg ffynnu wrth ochor Saesneg, ac er mwyn sicrhau fod trigolion Cymru yn derbyn yr un lefel o wasanaeth yn y Gymraeg a Saesneg yn ddigidol mae angen datblygu strategaeth ddigidol gynhwysfawr ar gyfer y Gymraeg.

Pwrpas sefydlu’r “think tank” annibynnol Melin Drafod yw ymateb i’r her yma ac i ddatblygu syniadau polisi ym maes y Gymraeg mewn cyd-destun digidol gan dynnu ar brofiad unigolion sydd ag arbenigedd yn eu meysydd o fewn y sector breifat a’r trydydd sector a chynnig llais annibynnol.

Newyddion Diweddaraf

Nid da lle gellir gwell

Braf iawn oedd clywed y newydd dros y penwythnos gan yr ONS bod cynnydd sylweddol wedi bod yn y nifer o siaradwyr Cymraeg dros y deng mlynedd diwethaf. Mae newydd unrhyw gynnydd yn galonogol, ond gyda phob cyhoeddiad o ystadegau mae angen gofal a dadansoddi pellach cyn agor y champagne.

Yn gyntaf mae angen sicrhau fod yr ystadegau hyn yn gywir ac yn gwrthsefyll unrhyw archwilio. Os yw’r cynnydd yn gywir mae’n amlwg fod y cynnydd mewn niferoedd sy’n dysgu Cymraeg fel plant ac oedolion yn gyfrifol i raddau helaeth am hyn, cofiwch fod 1,000,000 wedi lawr lwytho’r Ap dysgu DuoLingo Cymraeg ers ei lansiad ac mae angen canmoliaeth arbennig i Fudiad Meithrin am amlygu potensial y Gymraeg a dwyieithrwydd ledled y wlad.

Ond, oes mae ‘na wastad ond, cynnydd yn y nifer sy’n medru’r Gymraeg sydd yma, nid cynnydd o reidrwydd yn y niferoedd sy’n defnyddio’r Gymraeg. Mae hyn yn allweddol, mae’r angen i normaleiddio defnydd yr iaith a chynnig cyfleoedd, yn enwedig ymysg y llai hyderus, i ddefnyddio ac ymwneud a’r iaith yn allweddol.
Mae rôl llwyfannau digidol yn y cyd-destun hyn yn allweddol, drwy darparu cyfleoedd i Gymry cwrdd â chyfathrebu ac fel cartrefi i gynnwys perthnasol, cynnwys sydd ddim yn cael ei darparu ar hyn o bryd yn y Gymraeg, o’r safon a’r swmp sy’n angenrheidiol.

Gyda chymaint ohonom, yr hen ac enwedig yr ifanc, yn treulio fwyfwy o’n hamser mewn bydoedd digidol mae’n angenrheidiol ein bod yn archwilio’r dirwedd yma o bersbectif Cymraeg. Nid yn unig y dirwedd fel y mae heddiw ond yn bwysicach sut siâp fydd arno o fewn y degawd nesaf.

Mae cymaint o ffyrdd mae digidol yn dylanwadu ar ein bywydau dyddiol, data, AI, llywio, addysg, iechyd ac adloniant i enwi ond chwech. Cynyddu bydd y dylanwad a chynyddu bydd y pwysau ar y Gymraeg i aros yn berthnasol. Mae’r angen am gydlynu effeithiol ac i leisiau gwahanol cael ei chlywed yn hanfodol. Oes mae gan lywodraeth lle allweddol yn natblygiad strategaeth ddigidol hir dymor ynghyd a’r sefydliadau maent yn eu hariannu, ond mae yna hefyd angen meddwl annibynnol fydd ar adegau yn herio’r status quo. Nid da lle gellir gwell. Mae angen gweithredu ar sail y geiriau hyn.

Mae gan ddigidol y potensial o drawsnewid economi ein gwlad, yn datblygu diwydiannau newydd mae’r Gymraeg a dwyieithrwydd yn ei gynnig fel USP. Mae angen hyder ac uchelgais, buddsoddiad mewn ymchwil ac arloesi yn ogystal â buddsoddiad mewn mentrau masnachol.

Dyma pam lansiwyd Melin Drafod, ei rôl bydd ymddwyn fel cwndid ar gyfer datblygu strategaeth ddigidol cynhwysfawr ar gyfer y Gymraeg yn ogystal a syniadau polisi yn y maes penodol o’r Gymraeg mewn byd digidol. Bu bron i hanner cant yn bresennol ym mae Caerdydd ar ddydd Llun cyntaf yr Eisteddfod nol yn fis Awst ar gyfer ein lansiad swyddogol, ac mae sgyrsiau wedi parhau ers hynny ar sawl lefel.

Ymysg y camau nesaf bydd cynnal cyfarfodydd yn y gorllewin, canolbarth a’r gogledd i godi ymwybyddiaeth ac i glywed gennych chi, i ddysgu am y blaenoriaethau yn eich meysydd penodol a defnyddio’r wybodaeth hyn i greu strategaeth ddigidol gynhwysfawr ar gyfer y Gymraeg.

Mae’r broses o sefydlu Melin Drafod fel elusen ar waith yn ogystal â phenodi bwrdd o ymddiriedolwyr. Os oes gennych ddiddordeb gweithredu fel ymddiriedolwr, cysylltwch.

Bydd angen eich cefnogaeth o ran syniadau ac yn ariannol. Gall eich cefnogaeth newid dyfodol y Gymraeg ar lefel
cenedlaethol a rhyngwladol.

Edrychwn ymlaen at rannu rhagor o wybodaeth dros yr wythnosau i ddod.

Os hoffech chi gefnogi’n gwaith datblygu yma gallwch gyfrannu yma

Lansio Aelodaeth/Membership Launch

Er mwyn i’r “Melin Drafod” sefydlu a gweithredu’n effeithiol mae angen clustnodi amser penodol i drefnu a chydlynu. Trwy ddod yn aelod fe gewch gylchlythyr misol a gwybodaeth am ddigwyddiadau …

Radio ar ei newydd wedd

Wythnos hon lansiwyd BBC Sounds, llwyfan newydd ar gyfer cynnwys sain y darlledwr, radio byw ac ar alw a podlediadau. Mae gan gomisiynydd podlediadau y BBC cyllideb o £3,000,000 y …

2030 – A future Welsh media

The future of “broadcast” in Wales, particularly from a Welsh language perspective, has received considerable attention of late, we have had the independent review of S4C by the DCMS, Cymdeithas …