2030 – Dyfodol cyfryngau Cymraeg

Mae llawer o sylw wedi ei rhoi i ddyfodol “darlledu” yng Nghymru yn ddiweddar, cawsom adolygiad annibynnol o weithgareddau S4C gan y DCMS, mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn ymgyrchu dros ddatganoli darlledu o San Steffan i fae Caerdydd a chyhoeddwyd Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg gwnaeth gyffwrdd ar yr angen i greu cynnwys perthnasol yn y Gymraeg.

Y cwestiwn hoffwn annog trafodaeth o’i amgylch yw sut fath o dirwedd darlledu, cyfryngau a dosbarthu cynnwys bydd angen ar y Gymraeg yn 2030? A pha gamau sydd angen eu cymryd i sicrhau fod y Gymraeg yn rhan naturiol o fywydau pob dydd pobol o fewn tirwedd gyfryngol hyderus dwyieithog sy’n gwasanaethu Cymru gyfan.

Dosbarthu cynnwys dros ddarlledu – Mae darlledu fel term i weld yn un hen ffasiwn erbyn hyn, mae’r oes o gynulleidfaoedd yn derbyn cynnwys ar sail amserlen darlledwr yn prysur ddiflannu. Mae’r rhai ohonom a fagwyd cyn yr 80’au yn cofio’r arfer o eistedd i lawr o flaen set deledu am amser penodol er mwyn cael mwynhau ein hoff raglenni, yr adeg hynny roeddwn yn ddiolchgar am ail ddarllediadau. Yna daeth y VCR a’r gallu i recordio ac ail wylio ein hoff gynnwys. Erbyn heddiw mae’r rhyngrwyd a’r byd ar alw yn golygu taw’r defnyddiwr sy’n penderfynu pryd a beth maent am eu mwynhau a hyn ar amryw o lwyfannau a dyfeisiadau. Heddiw dyma mae’r to ifanc yn ei ddisgwyl, yn naturiol, heb ffrithiant. Y cynnwys sy’n bwysig nid y darparwr, yn wir mae fwyfwy o’r cynnwys maent yn ei fwynhau yn deillio o ffynonellau tra gwahanol i’r rhai oedd yn ein gwasanaethu ni, y to hun, yn ein plentyndod. Ffaith mae nifer sydd â chyfrifoldeb dros gynnwys yn y Gymraeg i weld ddim yn ei ddeall fel yr amlygwyd yn y Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg diweddar.

Mae’r dirwedd cynnwys bresennol Cymreig yn cael ei ddominyddu gan S4C a’r BBC, mae cynnwys hefyd yn cael ei gomisiynu ar raddfeydd llai gan lywodraeth Cymru trwy adrannau addysg, y Gymraeg a thrwy gyrff fel y cyngor llyfrau Cymraeg. Mae model bresennol S4C yn golygu fod angen cynnwys i lenwi amserlen, degau o oriau newydd pob wythnos, mae’r mwyafrif o’r cynnwys hyn yn gweld golau dydd llond llaw o weithiau cyn gorffwys mewn archif ddigidol. Cymharwch hyn a Netflix, Amazon Prime, YouTube a Now TV, pyrth cynnwys sy’n galluogi teuluoedd cyfan i bori a dewis y math o gynnwys sy’n mynd a’u pryd a gwylio pryd bynnag a mynnent, cyn belled bod cysylltiad digonol i’r we ar gael.

A’i dyma ddyfodol cynnwys Cymraeg? Comisiynu a chreu cynnwys ar sail genre a’i osod yn y cwmwl er mwyn i gynulleidfaoedd ei fwynhau pryd bynnag mae’r awydd a’r amser yn caniatáu?

A beth am y cynnwys mae ein plant yn mwynhau yn eu miliynau? Cynnwys mae YouTubers yn creu yn fasnachol yn y “prif ieithoedd” diolch i faint y gynulleidfa sydd ar gael a’r hwylustod i’w ddarganfod. Dyma’r eliffant yn yr ystafell o safbwynt y Gymraeg, Y crewyr cynnwys hyn yw “darlledwyr” ein plant, YouTube yw lle mae eu sianeli yn byw. Does dim modd greu a chynnal diwydiant o’i bath trwy “gefnogi gwirfoddolwyr” fel sy’n cael ei awgrymu yng nghynlluniau’r llywodraeth. Oes mae angen annog pobol ifanc i ddatblygu’r sgiliau i fod y crewyr cynnwys a YouTubers y dyfodol ac i fod yn deg ar Lywodraeth Cymru mae hyn yn rhan o’r cwricwlwm newydd a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Gobaith y dyfodol yw creu YouTubers a chrewyr cynnwys dwyieithog, rhai sy’n gallu cyrraedd cynulleidfaoedd rhyngwladol yn fasnachol wrth dal i ddarparu cynnwys yn y Gymraeg. Mae angen strategaeth a buddsoddiad. Oes angen ail ystyried rôl y cyngor llyfrau Cymraeg presennol? Ei ddatblygu’n cyngor cynnwys? Cyngor sydd a’r arbenigedd i oruchwylio tirwedd cynnwys Cymraeg sy’n esblygu, cyngor sy’n gallu creu a gweithredu strategaeth hir dymor fydd yn gwasanaethu’r degau o filoedd o Gymry newydd wrth i ni gyrraedd y filiwn o siaradwyr, ac yn bwysicach miliwn sy’n defnyddio’r Gymraeg.

Sut siâp fydd ar y BBC ym Mhrydain a Chymru ymhen degawd? Be fydd tynged y Western Mail, Daily Post a Wales Online? Fydd angen corfforaeth cynnwys Cymraeg? Un sy’n darparu gwasanaeth newyddion a chynnwys sain a gweledol yn y Gymraeg a Saesneg tebyg i sut mae EITB yn gweithredu yng ngwlad y Basg?

Mae cymaint o gwestiynau, ond mae yma ddigonedd o gyfleoedd i ni yma yng Nghymru siapio’r math o gyfryngau a chynnwys bydd ein plant yn dibynnu arnynt am adloniant ac addysg yn 2030. Ar ba blatfformau? Gan ba gyflenwyr? Mae’r rhain yn gwestiynau mawr. Rydym yn awyddus i ddechrau’r drafodaeth.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *