Dyfodol Digidol

Wedi hir ddisgwyl mae llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi “Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg”. Nod y cynllun yw sicrhau seilwaith cadarn ar gyfer technoleg ddigidol yn y Gymraeg ac yn canolbwyntio ar dri maes penodol.

1. Technoleg Lleferydd Cymraeg
2. Cyfieithu â chymorth cyfrifiadur
3. Deallusrwydd Artiffisial Sgwrsiol

Beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol? Sut fydd y cynllun yn ymateb i’r heriau lu sy’n wynebu’r Gymraeg mewn oes gynyddol ddigidol?

Heb ddeall yn iawn beth fydd y gyllideb ar gyfer gweithredu’r pecynnau gwaith. Ar raglen y post cyntaf ar BBC Radio Cymru fore Mawrth y 23ain o Hydref fe ddywedodd Eluned Morgan, y gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, taw ffigwr o £400,000 fydd ar gael, a hyn o fewn y flwyddyn ariannol bresennol, hyd ddiwedd Mawrth 2019.
Mae hyn yn codi’r cwestiwn a yw’r cynllun newydd gyda chyllideb benodol hir dymor? Mae adran y Gymraeg wedi ariannu ar sail prosiectau yn y gorffennol, gellir gweld y manylion yma, ond beth sydd ar goll ar hyn o bryd yw asesiad o effeithlonrwydd y prosiectau hyn, yn wir a yw pob prosiect a ariennir wedi ei chwblhau ac wedi ei asesu am werth am arian?

Llawer o gwestiynau, gobeithio daw atebion yn yr wythnosau i ddod.
Dyma pam y sefydlwyd Melin Drafod, i ofyn y cwestiynau hyn, ond hefyd i gynnig atebion o bersbectif gwahanol i’r “arbenigwyr” mae llywodraeth Cymru yn galw arnynt am gyngor. Nawr bod y cynllun wedi ei gyhoeddi a dirgelwch aelodaeth y Bwrdd Technoleg Cymraeg Llywodraeth Cymru wedi ei dadorchuddio fe fyddwn yn mynd ati i lunio strategaeth ddigidol ar gyfer y Gymraeg, un sydd a’r uchelgais a’r weledigaeth mae’r iaith eu hangen ag yn ei haeddu.

Edrychwn ymlaen at gydweithio a Llywodraeth Cymru ar y gwaith cyffrous o weithredu’r cynllun a datblygu Cymru fel canolfan ar gyfer arloesedd yn nhechnoleg ieithyddol a rhyngwladoli digidol.